image: Mukhtar, external liaison

gwasanaeth i bawb: cyflwyniad i’r ombwdsmon

Rwy’n siarad gyda phobl am wasanaeth yr ombwdsmon ...

Mukhtar ydw i – ac rwy’n hoffi meddwl fod gen i syniad go dda am y rhan fwyaf o bethau. Ond mi wn fod materion ariannol yn gallu bod yn gymhleth i lawer o bobl, yn enwedig pan fo pethau’n mynd o chwith.
Dyma lle rwy’n teimlo y galla i wneud gwahaniaeth go iawn. Mae fy swydd yn cynnwys mynd allan i’r gymuned a siarad am wasanaeth yr ombwdsmon.

Weithiau mae pobl yn synnu fy ngweld i a’m cydweithwyr o ombwdsmyn mewn sioeau defnyddwyr. Wrth gwrs, rydym yn gobeithio na fydd y rhai y byddwn yn eu cyfarfod byth yn cael trafferthion nac angen defnyddio gwasanaeth yr ombwdsmon. Ond dylai gwybod ein bod yno fod yn help i roi tawelwch meddwl – a rhoi ychydig bach o hyder ychwanegol i chi mewn materion ariannol.

Mukhtar, ymestyn allan