Image: cup

fy stori - clip fideo

sut wnaeth y gwasanaeth ombwdsmon fy helpu ...

pan oedd fy nghegin dan ddŵr

Cefais amser dychrynllyd pan foddwyd fy nghegin. Roedd llanast a difrod ofnadwy. Ac yn ddigon rhyfedd roedd fy ffrind wedi cael problem debyg rhai misoedd ynghynt. Nid oedd ganddi ond canmoliaeth i'r gwasanaeth penigamp a gawsant gan eu cwmni yswiriant.

Felly cefais ysgytwad pan ddechreuodd fy yswiriwr innau roi trafferth i mi. Fe ddyfynnon nhw ddarnau o'r print bychan yn y polisi gan ddweud nad oedd y rhan fwyaf o'r pethau yr oeddwn yn hawlio ar eu cyfer wedi'u hyswirio. Roedd hyn yn ofid mawr i mi - yn y diwedd roeddwn yn teimlo mai arna i oedd y bai am bopeth.

Byddaf yn teimlo'n nerfus bob amser ynghylch gorfod ffonio pobl a gwneud cwyn. Ac mae'n rhaid cyfaddef nad wyf yn dda gyda gwaith papur. Ond roeddwn wedi talu arian da am fy yswiriant ac ni fedrwn gredu nad oedd y pethau hyn wedi'u cynnwys. Dywedodd fy ffrind wrthyf am ofyn i’r gwasanaeth ombwdsmon am gymorth. Teimlwn yn bryderus ynghylch eu ffonio ond nid oedd angen i mi ofidio. Roeddynt yn hollol ddi-lol. Fe esbonion nhw bopeth yn glir a threulio llawer o amser ac ymdrech ar fy rhan. Aeth tipyn o amser heibio cyn iddynt fedru datrys pethau - ond yn y pen draw cyfaddefodd yr yswirwyr eu bod ar fai ac fe dalon nhw.

Miss B, Truro